greenwoodside: (Default)
 Mae'r flwyddyn ddiwetha 'di bod yn ofnadwy. Bu farw fy nhad ym mis Rhagfyr. Gadawais i fy mhartner o dair blynedd yn Chwefror 2020. Ar hyn o bryd, dw i'n aros am ganlyniadau prawf gwaed oherwydd nodau lymff wedi'i chywddo. Rili shit oedd hi mewn gwirionedd. 

Felly, dw i'n mynd i ysgrifennu rhestr o bethau da. 

1. Mae fy mam yn iach. 
2. Dw i 'di arbed ychydig o arian yn ystod y cyfnod clo 
3. Prynais i fandolin o RSPCA, a dw i'n dwlu arno. (Byddai rhai pobl yn prynu cŵn, neu foch cwta. Prynais i hen offeryn gyda thannau o Orllewin yr Almaen). 
4. Mae'r haul yn sgleinio
5. Bydd canolfannau garddio yn ailagor wythnos nesa. 
6. Dw i'n cael fy nghyflogi o hyd. 
7. Gorffenais i dri fanfic. Ar ôl gorffen y pedwerydd, bydda i'n gweithio ar rwbeth gwreiddiol. 
8. Dw i'n mwynhau chwarae Pillars of Eternity, a darllen City of Brass. 
9. Yn yr haf, af i ar wyliau. Falle yng ngwlad y ffeniau. 

Mae fanfic 'di bod yn gymorth mawr i fi dros y misoedd diwetha. Mae'n ffordd dianc dibynadwy o realiti anodd a thrist. Ond dw i 'di bod yn meddwl unwaith eto am ffandom a fy hen gysylltiadau ynddo. "Veteris uestigia flammae" i fod rili ymhongar. Ro'n i'n arfer ysgrifennu fel greenwoodside ar LJ, a hefyd fel falco_999, ond ro'n i'n wastad ar ffiniau fffandom; er mod i'n hoffi sawl unigolyn lot, ro'n i'n wastad rhy ochelgar i estyn allan iddyn nhw. Yn y llefydd bach ble ro'n i'n byw, doedd 'na ddim confensiynau hefyd. Dim cyfleoedd i gwrdd â geeks eraill. Ond, dweud y gwir, tasai cyfarfodau ffandom wedi bod yn digwydd ym mhobman, fyddwn i ddim wedi mynd. Rhy swil. Gobeithio byddan nhw'n iawn, y pobl ro'n i'n hoffi - dw i 'di colli golwg arnyn nhw ers blynyddoedd. 

Profile

greenwoodside: (Default)
greenwoodside

March 2025

S M T W T F S
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     

Syndicate

RSS Atom

Most Popular Tags

Page Summary

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated May. 20th, 2025 12:30 am
Powered by Dreamwidth Studios
OSZAR »