greenwoodside: (Default)
 Dw i wedi bod yn gweithio gartre ers Dydd Llun diwetha. 

Nid yn gorfodi delio â arddegwyr yw mantais fawr aros gartre. Ond dw i'n gwneud ymdrech i ganolbwyntio ar fy ngwaith, heb lawer o lwyddiant. Dw i'n teimlo'n warged, heb fedr, heb ddiben. 

Dyw y newyddion sy'n dod o dŷ fy rhieni ddim yn dda. Mae'r salwch wedi newid fy nhad. Yn y gorffenol, fyddai e wedi gweld ei fod e'n brifo fy mam. Nawr mae e'n gallu gweld ei iechyd yn unig. Dim iechyd fy mam. 

Mae e wedi gwrthod i dderbyn cymorth o'r têm gofalu ffantasteg. Felly, rhaid i fy mam wneud popeth. 

Sa'n gwybod beth i wneud. Roedd erthyglau yn y cyfryngau yn dweud bod dos dopamin yn achosi hunanoldeb pan mae e'n cael ei roi i bobl iachus. Allai e wneud yr yn peth i bobl sal? 

Falle bod fy nhad yn bodoli eto o dan haen drwchus o feddyginiaeth. Falle dyw e ddim. Dw i ddim yn gwybod pa bosibilrwydd bod y gwaethaf. 


O leia mae fy oregano yn tyfu'n dda ar y silff ffenest. A dw i'n gwylio "The Orville" - mae'n ddoniol iawn. Ddoe ro'n i'n chwerthin drwy'r nos. 

Profile

greenwoodside: (Default)
greenwoodside

March 2025

S M T W T F S
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     

Syndicate

RSS Atom

Most Popular Tags

Page Summary

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated May. 19th, 2025 06:10 am
Powered by Dreamwidth Studios
OSZAR »