Nos Sul

Dec. 1st, 2019 07:16 pm
greenwoodside: (Default)
[personal profile] greenwoodside
Ro'n i i fwrdd nos Wener a dydd Sadwrn, felly ches i ddim cyfle i ddiweddaru fy siwrnal.

Mae'r penwythnos ar ôl diwrnod cyflog wastad yn dda. Prynais i ail fwydwr adar. Mae'r un cyntaf yn addas i hadau blodyn yr haul. Mae hyn wedi ei ddylunio i gynnwys cnau mwnci. Gobeithio bydd yr adar lleol yn eu mwynhau.

Nos Sadwrn bwriadais i wneud llawer o pethau pwysig. Y bore ddydd Sul, a ro'n i'n cysgu'n hwyr. Doedd y boeler ddim yn gweithio - dim pwysedd dŵr. Oedais i, ond o'r diwedd galwais i fy landlord - daeth e a datrysodd y broblem. (Ar ôl ei alw, ces i drideg munud i tacluso'r tŷ, a rhoi'r dillad oedd sychu ar y radiadur yn ôl yn y cwpbwrdd). Felly, heblaw y bwydwr adar newydd, dw i ddim wedi gwneud llawer.

Dw i wedi prynu goleaudau a siocled am y arddangosiad yn y gwaith. Mae'n ddoniol - er fy mod i chwennych y Nadolig John Masefield, dw i'n cael (a chyrfrannu at) y Nadolig plastig Hollywood. Dw i angen atgoffa fy hun bod y Nadolig yn cynhesach a hŷn yn ddangos yn fy mywyd yma ac acw. Yn y cyngerdd yn Otley pedair blynedd yn ôl, er engraifft. Dylwn i fynd cerdded yn y bryniau i chwilio am gelyn eleni.

Heno dw i wedi gweld rhaglen ddogfen am ddiwylliant Japaneaidd yn cysylltiad â natur ac y cartref. Ers blynyddoedd dw i'n edmygu estheteg Japaneaidd - edmygu o safle anwybodaeth, beth bynnag. Dw i'n edmygu heb ddeall. Yn y gwanwyn neu'r haf eleni, darllenais i gerdd gan Mizuta Masahide:

Nawr mae fy ysgubor wedi ei llosgi
Does dim byd i guddio
Golygfa'r lleuad.

Ro'n i'n synnu i ddarllen bod rywun arlein yn teimlo bod y gerdd yn rhodresgar. Pan dw i'n clywed y gerdd, mae 'na chwerthin ac herfeiddiad yn y llinellau. Mae hi, er yn fyr, yn difrifol ac yn sardonig ar yr un pryd.
(will be screened)
(will be screened if not validated)
If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting

If you are unable to use this captcha for any reason, please contact us by email at [email protected]

Profile

greenwoodside: (Default)
greenwoodside

March 2025

S M T W T F S
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     

Most Popular Tags

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated May. 30th, 2025 10:18 am
Powered by Dreamwidth Studios
OSZAR »